Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Public Accounts Committee

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                            

                              

23 Gorffennaf 2012

 

 

 

Annwyl Syr/Madam,

 

Ymgynghoriad ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w cael ar wefan y Cynulliad yn:

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=4174

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gryfhau’r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, a materion perthnasol eraill, drwy gyfeirio at: 

 

1.   Y darpariaethau unigol yn y Bil—

§  Adrannau 2-12, sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru,

§  Adrannau 13-28, sy’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, a’i pherthynas â’r Archwilydd Cyffredinol, ac 

§  Adrannau 29-37, sy’n gwneud darpariaethau amrywiol a chyffredinol.

2.   Unrhyw rwystrau posibl i roi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried.

3.   Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u gosodwyd yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif y costau a’r buddion o roi’r Bil ar waith).

    

4.   Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1, Adran 5 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl sy’n rhoi crynodeb o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth).

 

Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau llafar yn ystod tymor yr hydref.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: Pwyllgor.CyfrifonCyhoeddus@cymru.gov.uk  

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

 

Sarah Sargent, Dirprwy Glerc

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99

 

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn dydd Gwener 21 Medi. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor yn gwahodd ymatebion gan y rhai a enwyd ar y rhestr atodedig. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar petaech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

 

Darren Millar's signature1

 

Darren Millar AC / AM

Cadeirydd / Chair

 


 

Atotiad

Ymgyngoreion

 

* County and County Borough Councils in Wales;

^ Welsh Local Government Association;

* National Park Authorities in Wales;

* Port Health Authorities in Wales;

* Fire and Rescue Services in Wales;

* Police Authorities in Wales;

* Wales Probation Trust;

* Health Boards and Trusts in Wales;

Public Health Wales NHS Trust;

* The Older People’s Commissioner for Wales;

* The Children’s Commissioner for Wales;

* The Public Services Ombudsman for Wales;

^ Countryside Council for Wales;

^ Local Government Boundary Commission for Wales;

* Sport Wales;

* Forestry Commission Wales;

* Arts Council of Wales;

* General Teaching Council for Wales;

* National Museum of Wales;

* National Library of Wales;

* The Welsh Language Commissioner;

* Welsh Levy Board;

* Royal Commission on Ancient and Historical Monuments in Wales;

* Care Council for Wales;

^ Higher Education Funding Council for Wales;

* One Voice Wales;

* The Auditor General for Wales;

* Financial Reporting Council;

* Comptroller and Auditor General UK;

Comptroller and Auditor General Irish Republic;

* Auditor General Scotland;

* Comptroller and Auditor General of Northern Ireland;

*^ Audit Commission;

* NHS Confederation Wales;

^The Chief Inspector of Education and Training in Wales;

* The Wales Office;

* Her Majesty’s Treasury;

* Ministry of Justice;

* Department of Work and Pensions;

* Department of Communities and Local Government;

* Home Office;

^Chartered Institute of Public Finance Accountants (CIPFA);

^ Association of Chartered Certified Accountants Wales;

* The Institute of Chartered Accountants for England and Wales;

* Chartered Institute of Management Accountants;

Cardiff University Business School;

^ World Wildlife Fund (Cymru);

^ Price Waterhouse Coopers (PwC);

^ Cardiff Metropolitan University;

^ Glyndwr University, Wrexham;

^ University of Glamorgan;

^ Commissioner for Sustainable Futures;

^ Environment Agency (Wales).

 

*Contacted as part of the Welsh Governments consultation on the Draft Public Audit (Wales) Bill.

^Responded to the Welsh Governments consultation of the Draft Public Audit (Wales) Bill.